Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,810, 1,688 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,253.82 ha |
Cyfesurynnau | 52.6488°N 3.3243°W |
Cod SYG | W04000299 |
Cod OS | SJ105065 |
Cod post | SY21 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Caereinion.[1] Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr A458, 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r Drenewydd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed afon Banwy trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).[2]
Yn yr Oesoedd Canol Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf cantref Caereinion. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan Einion Yrth, un o feibion Cunedda, ganol y 5g. Ceir hen fryngaer o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref. Roedd eglwys y pentref dan awdurdod Meifod a safai ym Mathrafal, prif lys brenhinoedd Teyrnas Powys, tua tair milltir a hanner i'r gogledd.
Yn fersiwn John Jones o Gellilyfdy o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Gwion Bach, ymgnawdoliad cyntaf Taliesin Ben Beirdd, yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".[3]
Ym 1837 cafwyd terfysg fawr yn y plwyf pan ymosododd tlodion yr ardal ar Swyddog y Tlodion plwyf Llanfair Caereinion oherwydd cyfyngiadau Deddf Newydd y Tlodion a bu rhaid galw'r milisia lleol i mewn i adfer trefn.[4]
Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanfair Caereinion a'r cylch.
Lleolir terminws gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion yn y pentref, sy'n denu twristiaid o ganlyniad.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[6]
|access-date=
(help)