![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,070, 966 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,252.23 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.221°N 3.612°W ![]() |
Cod SYG | W04000124 ![]() |
Cod OS | SH927700 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfair Talhaearn[1] (hefyd Llanfair Talhaiarn).[2] Roedd yn Sir Ddinbych cynt. Mae'n sefyll ar groesffordd y briffyrdd A548 a'r A544, tua 5 milltir i'r de o Abergele.
Llifa Afon Elwy drwy'r pentref sy'n gorwedd rhwng bryniau coediog gyda Moel Unben (358 m) yn sefyll allan i'r de.