![]() | |
Math | tref bost, pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 465, 476 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,685.62 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7744°N 3.2019°W ![]() |
Cod SYG | W04000300 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng ngogledd Powys, Cymru, yw Llanfechain.[1] Fe'i lleolir ar y lôn B4393 9 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Groesoswallt, dros y ffin yn Swydd Amwythig.
Mae'n gorwedd ar lan Afon Cain tua hanner ffordd rhwng Llanfyllin a Llansantffraid-ym-Mechain, y ddau bentref cyfagos. Fel yn achos Llansantffraid, fe'i enwir ar ôl hen gantref Mechain.
Mae eglwys Llanfechain wedi'i chysegru i Sant Garmon.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Ganwyd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) yn y plwyf ar 15 Gorffennaf, 1761.