![]() Y bont ar Afon Alwen yn Llanfihangel Glyn Myfyr | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 189, 200 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,351.22 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.031°N 3.506°W ![]() |
Cod SYG | W04000125 ![]() |
Cod OS | SH991492 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfihangel Glyn Myfyr.[1][2] Roedd yn hanesyddol yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Saif yng nghornel dde-ddwyreiniol eithaf y sir yn ardal wledig Uwch Aled, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gerrigydrudion ar yr hen lôn i Ruthun. Mae Afon Alwen, sydd â'i tharddle yn Llyn Alwen tua 4 millir i'r gogledd-orllewin, yn llifo heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Dyfrdwy. I'r de o'r pentref ceir bryn isel Mwdwl-eithin.
Ymwelodd William Wordsworth â’r pentref ym 1824 i aros gyda ffrind, Robert Jones, yn y persondy, ac ysgrifennodd y gerdd Vale of Meditation am y pentref.[3]