![]() Tafarn yn LLanfihangel Llantarnam | |
Math | maestref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,125, 4,975 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Torfaen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 656.1 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.636°N 3.006°W ![]() |
Cod SYG | W04000765 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lynne Neagle (Llafur) |
AS/au y DU | Nick Thomas-Symonds (Llafur) |
![]() | |
Pentref, plwyf a chymuned ym mwrdeistref sirol Torfaen, Cymru, yw Llanfihangel Llantarnam, weithiau Llantarnam. Hi yw'r gymuned fwyaf deheuol yn Nhorfaen, ac mae wedi datblygu yn un o faesdrefi Cwmbrân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,299; cynyddodd i 4,125 erbyn 2011. Mae Camlas Sir Fynwy yn rhedeg trwy'r gymuned. Bu yma eglwys ar un cyfnod a gysegrwyd i sant Derfel Gadarn.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lynne Neagle (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Nick Thomas-Symonds (Llafur).[3]