Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 468, 449 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5,098.73 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.983°N 4.117°W ![]() |
Cod SYG | W04000524 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanfihangel-rhos-y-corn. Gorwedd yn y bryniau i'r gogledd o bentref Brechfa ac i'r gorllewin o Abergorlech. Mae rhan ddeheuol y plwyf yn rhan o Fforest Brechfa. Mae eglwys y plwyf yn dyddio o'r 13g ac yn gorwedd yn uchel ar y bryniau.
Ardal o fryniau isel a choedydd ydyw, gydag afon Clydach, un o ledneintiau afon Cothi, yn llifo trwy gwm dwfn yn ei chanol. Yr unig gymuned o faint yno yw pentref bychan Gwernogle, ar lan afon Clydach. Yng ngogledd-orllewin y plwyf, tua hanner ffordd rhwng Brechfa i'r de a Llanfihangel-ar-Arth i'r gogledd, ceir Mynydd Llanfihangel-rhos-y-corn (356 m), gyda charnedd cynhanesyddol ar ei gopa.
Yr enw yn yr Oesoedd Canol ar fforest frenhinol a orchuddiai rhannau helaeth o blwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn oedd Glyn Cothi. Ymddengys fod y bardd canoloesol enwog Lewys Glyn Cothi (tua 1245 - tua 1490) wedi ei eni yno, efallai tua'r flwyddyn 1425.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]