![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.3699°N 3.9618°W ![]() |
Cod OS | SN6676 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng Ngheredigion yw Llanfihangel y Creuddyn (ffurf amgen: Llanfihangel-y-Creuddyn). Mae'r elfen olaf yn yr enw yn cyfeirio at y Creuddyn, un o dri chwmwd cantref canoloesol Penweddig.
Gorwedd y pentref mewn cwm yn y bryniau isel rhwng afon Ystwyth i'r de ac afon Rheidol i'r gogledd, tua 7 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae'r eglwys yn bur hynafol ac yn un o'r sawl a gysegrir i Sant Mihangel.
Pentref diolchgar yw Llanfihangel - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]