![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Bont-faen a Llanfleiddan ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.46°N 3.46°W ![]() |
Cod OS | SS995745 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Y Bont-faen a Llanfleiddan, Bro Morgannwg, Cymru, yw Llanfleiddan[1] (Saesneg: Llanblethian).[2] Gorwedd fymryn i'r de-ddwyrain o'r Bont-faen ar lan Afon Ddawan.
Mewn dogfennau hanesyddol fe'i gelwir weithiau yn Llanfleiddan Fawr i wahaniaethu rhyngddo a Llanfleiddan Fawr (enw amgen ar bentref Llwyneliddon). Roedd yr eglwys yn gysegredig i Sant Bleiddan (amrywiad, Bleiddian) yn wreiddiol, ond yn y cyfnod Normanaidd fe ailgysegrwyd i Sant Ioan Fedyddiwr. Roedd yr eglwys yn ganolfan eglwysig leol o bwys yn y rhan yma o'r Fro, gyda chapeli yn perthyn iddo yn Y Bont Faen, Llansanwyr a Llanddunwyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]