![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,878 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1026°N 3.0783°W, 53.10022°N 3.08422°W ![]() |
Cod SYG | W04000196 ![]() |
Cod OS | SJ279567 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llanfynydd[1] ( ynganiad ). Saif ar y ffordd B5101, sydd wedi ei hadeiladu ar ben Clawdd Offa yn yr ardal yma, hanner y ffordd rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Ffrith, ychydig i'r de. Ar un adeg roedd gweithfeydd glo a haearn yn y gymuned, ond ardal wledig ydyw yn ei hanfod. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,752.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jack Sargeant (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Mark Tami (Llafur).[3]