![]() Eglwys St Cadfan | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cadfan ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.686281°N 3.462404°W ![]() |
Cod OS | SJ041102 ![]() |
Cod post | SY21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cysegrwyd i | Cadfan ![]() |
Pentref bychan yng nghymuned Banw, Powys, Cymru, yw Llangadfan. Saif yn ardal Maldwyn yng ngogledd y sir, yn rhan uchaf Dyffryn Banwy ar yr A458 tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng i'r dwyrain a Dolgellau i'r gorllewin. Tua milltir i'r dwyrain ceir pentref Llanerfyl.
Llifa afon Banwy heibio i'r pentref ar ei ffordd i lawr Dyffryn Banwy i'r Trallwng. Mae Afon Gam yn llifo i lawr o Nant yr Eira i ymuno ym Manwy ger y pentref.
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Cadfan, sant a gysylltir yn bennaf ag ardal Tywyn ym Meirionnydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]