![]() Eglwys Cadmarch Sant, Llangamarch. | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llangamarch ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1137°N 3.5582°W ![]() |
Cod OS | SN934473 ![]() |
Cod post | LD4 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangamarch[1] (Saesneg: Llangammarch Wells). Mae'n gorwedd ar lan Afon Irfon ar ei chymer ag Afon Camarch, 6 milltir a hanner i'r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt a thua 3 milltir i'r dwyrain o Lanwrtyd. Mae ganddo boblogaeth o 475 (2001).
I'r de o'r pentref cyfyd bryniau Mynydd Epynt i gyrraedd 1554 troedfedd (neu 474m) yn y Drum Du a'r Bryn Du.
Yn ôl traddodiad sefydlwyd clas yn Llangamarch gan sant o'r enw Camarch/Cammarch, un o feibion Gwynlliw, ond ymddengys fod y pentref yn cymryd ei enw oddi ar yr afon o'r un enw. Cysegrir yr eglwys i Sant Tysilio. Ceir darn o faen gyda chroes Geltaidd yn y porth.
Roedd John Penry (1559 - 1593), y merthyr Protestannaidd a llenor enwog, yn frodor o Langamarch.
Gelwir y pentref yn Llangammarch Wells yn Saesneg am iddo ddod yn ddyfrfa poblogaidd iawn, gyda Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod a Llanwrtyd, yn y 19g. Roedd yn spa oedd yn arbennig o boblogaidd gan ymwelwyr o'r Almaen, yn cynnwys y Kaiser (ymerawdwr) Wilhelm II a arhosodd yno yn 1912.
Mae gan Langamarch orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]