![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 639 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6433°N 4.1123°W ![]() |
Cod SYG | W04000080 ![]() |
Cod OS | SH570071 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentrefan, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llangelynnin[1][2] ( ynganiad ). Saif i'r gogledd o dref Tywyn, ger priffordd yr A493 ac uwchben y môr. Mae cymuned Llangelynnin hefyd yn cynnwys pentref Llwyngwril a phentref bychan Rhoslefain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Prin y gellir galw Llangelynnin yn bentrefan o gwbl, gan mai dim ond llond dwrn o adeiladau gwasgaredig ydyw; ei ganolbwynt yw Eglwys Sant Celynnin, sy'n dyddio o'r 13g. Yn y fynwent, mae bedd Abram Wood, sylfaenydd tylwydd enwocaf y Sipsiwn Cymreig. Mae lein Rheilffordd y Cambrian gerllaw. Mae'r eglwys ar ochr y mynydd, nid nepell o'r môr.