Canol pentref Llangernyw | |
Math | pentref, cymuned, anheddiad dynol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,079, 1,089 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,004.18 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.193°N 3.685°W ![]() |
Cod SYG | W04000126 ![]() |
Cod OS | SH873674 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangernyw.[1][2] Roedd yn rhan o'r hen Sir Ddinbych a Chlwyd cyn hynny. Mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y rhan hon o'r sir.
Mae'r pentref yn gorwedd ar bwys cymer yr afonydd Cledwen, Gallen, a Collen (sy'n troi'n Afon Elwy ) ar lôn yr A548, tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrwst ac 10 milltir i'r de-orllewin o Abergele ar y lôn honno. Mae'n gorwedd mewn dyffryn deniadol yng nghanol bryniau isel wrth droed bryn Tre-pys-llygod.