![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 470, 483 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,112.21 ha ![]() |
Gerllaw | Afon Ceirw ![]() |
Cyfesurynnau | 52.988°N 3.543°W ![]() |
Cod SYG | W04000127 ![]() |
Cod OS | SH966446 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan a chymuned wledig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangwm.[1][2] Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir ar lôn fynydd tri-chwarter milltir o'i chyffordd ar yr A5, tair milltir i'r de o Gerrigydrudion. Mae'r pentref tua 250m uwch lefel y môr, ar gyfartaledd.
Mae Llangwm yn un o gymunedau rhanbarth hanesyddol Uwch Aled. Bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt ac wedyn sir Clwyd. Rhed ffrwd fechan afon Medrad trwy'r pentref i afon Ceirw. I'r gorllewin mae ffordd yn cysylltu Llangwm â phentref bychan Gellioedd. I'r de mae'r tir yn codi i gopa moel Foel Goch (2004 troedfedd). Mae Pigyn Benja (neu Garnedd Benjamin ar fapiau OS) yn 522 metr o uchder ac i'r de-de-ddwyrain o'r pentref.
Ceir hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol ger Maesmor, o'r enw Tomen Maesmor, tua milltir i lawr yr A5. Roedd y pentref yn flaenllaw iawn yn Rhyfeloedd y Degwm.