Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2947°N 3.7939°W |
Cod OS | SH766688 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Pentrefan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangystennin[1] neu Llangwstenin.[2] Saif y pentref i'r de-ddwyrain o dref Llandudno. Mae'r plwyf yn cynnwys Plas Llangystennin, pentrefi Mochdre, Pabo a Bryn Pydew, a thref Cyffordd Llandudno.
Enwir y plwyf ar ôl Sant Cystennin (Cystennin Fendigaid neu Cystennin ap Cynfor), mab Elen Luyddog o ardal Caernarfon yn ôl traddodiad ; gyda'i fam a'i frawd Sant Peblig dywedir iddo gyflwyno i Gymru mynachaeth Geltaidd Gâl yn y 5g.
Mae eglwys Llangystennin yn hen. Yn ôl traddodiad, codwyd eglwys seml ar y safle yn y 5g. Yn Oes y Tywysogion roedd ym meddiant Abaty Aberconwy ac am gyfnod yn perthyn i eglwys Abergele yn ddiweddarach. Yn ôl un fersiwn o'r hanes, gwrandawyd cwyn Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd, yn erbyn y brenin Harri III o Loegr yn Llangystennin ; gwysiwyd y brenin gan abadau Aberconwy a Chymer i ateb y cyhuddiad ond ni ddaeth (credir erbyn hyn mai i eglwys Caerwys y galwyd y brenin). Ceir ffenestr liw nodedig yn yr eglwys a meini coffa nifer o aelodau o deulu Llwydiaid Llangystennin yn ogystal.