Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.874°N 4.573°W |
Cod OS | SH268338 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentref yn Llŷn yw Llaniestyn ( ynganiad ), a leolir 8 milltir i'r gorllewin o Bwllheli, Gwynedd. Mae Llaniestyn yn blwyf eglwysig hefyd.
Mae'r pentref yn gorwedd yng ngodre Carn Fadryn mewn dyffryn cysgodol. Rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd y pentrefwyr ardd gymunedol. Mae croeso i unrhyw un droi i mewn, eistedd a gwerthfawrogi harddwch y bywyd gwyllt o gwmpas, gwrando ar gân yr adar ac ymlacio yn y llonyddwch. Mae'n safle ddelfrydol i gerddwyr gymeryd hoe a chael picnic ar eu taith o gwmpas Llŷn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]