Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyriw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.610263°N 3.394069°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Pentref bychan gwledig yng nghymuned Dwyriw ym Maldwyn, Powys, yw Llanllugan. Gorwedd 4 milltir i'r de-orllewin o bentref Llanfair Caereinion, 8 milltir i'r gogledd o'r Drenewydd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gantref Cedewain.
Nid oes sicrwydd am union ystyr y gair llugan yn enw'r lle. Mae'n bosibl ei fod yn ffurf ar enw'r santes Lluan.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]