![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 638, 653 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,672.84 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0331°N 4.2042°W ![]() |
Cod SYG | W04000536 ![]() |
Cod OS | SN489395 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanllwni. Saif y pentref ar hyd y briffordd A485, yn ymestyn am tua 4 km, fymryn i'r de-orllewin o Lanybydder. I'r de o'r pentref mae Mynydd Llanllwni. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 16g, i Sant Luc, ond gynt i Sant Llwni.
Heblaw pentref Llanllwni, mae'r gymuned yn ymestyn hyd at lan ddeheuol Afon Teifi ac yn cynnwys copa Mynydd Llanybydder (408 m). Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 676 gyda 72.19% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llanllwni yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]