![]() Maen hir, gyda'r pentref yn y cefn | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 734, 729 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,610.42 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.939°N 4.301°W ![]() |
Cod SYG | W04000538 ![]() |
Cod OS | SN415295 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan, chymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanpumsaint. Fe'i lleolir tua 6 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ar groesffordd wledig. Llifa Afon Gwili heibio i'r pentref ac mae Nant Cwm Cerwyn yn ymuno â hi yno. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae ganddo boblogaeth o tua 595[1].
Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl pum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sef Ceitho, Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn.
Mae hefyd yn gartref i'r gymuned Skanda Vale, sef cymuned ysbrydol aml-fydd sydd yn denu nifer fawr o bererinion pob blwyddyn. Cafwyd y gymuned ei sefydlu yn 1973.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]