![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3733°N 4.5088°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Cylch-y-Garn yng ngogledd Môn yw Llanrhuddlad[1] ( ynganiad ) (Llanrhyddlad ar y map OS). Saif ar y briffordd A5025 rhwng Cemaes, tua 4 milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, a Llanfaethlu, tua 2 filltir i'r de-orllewin.
Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Rhuddlad. Y cwbl a wyddys amdani yw ei bod yn ferch i frenin Leinster, dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723). Ceir englyn ar garreg fedd ym mynwent yr eglwys:
O’r pridd wy' ŵr pruddaf, – pridd wyf
I’r pridd oer y syrthiaf;
Prudd feddwl mai pridd fyddaf,
O’r pridd yr wy' i’r pridd yr âf.[2]
Mae lôn yn arwain i fae Borth Swtan ar yr arfordir, trwy bentref Rhydwyn, tua 2 filltir i'r gorllewin.