Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 966, 986 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,777.22 ha |
Cyfesurynnau | 52.3059°N 4.1458°W |
Cod SYG | W04000388 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng Ngheredigion yw Llanrhystud. Saif ar y briffordd A487, rhyw naw milltir i'r de o Aberystwyth.
Llifa Afon Wyre trwy'r pentref ychydig cyn cyrraedd a môr, ac mae Afon Wyre Fach yn ymuno â hi ychydig uwchben y pentref. Gerllaw'r fan lle mae'r ddwy afon yn ymuno, mae Gaer Penrhôs, lle mae olion bryngaer o Oes yr Haearn ac olion castell, a adeiladwyd, efallai gan Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd yn 1149. Castell mwnt a beili ydyw, yn defnyddio gweddillion yr hen fryngaer fel beili. Roedd Rhys ap Gruffudd (Llansadwrn) yn dal tiroedd yma yn y 14g.
Dyddia'r eglwys bresennol, sydd wedi ei chysegru i Sant Rhystud, o'r flwyddyn 1852, ond gellir gweld rhywfaint o olion yr eglwys flaenorol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]