Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4879°N 3.4506°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg yw Llansanwyr (Saesneg: Llansannor).
Gorwedd Llansanwyr ar lan ddwyreiniol Afon Ddawan ifanc, rhwng Ystradowen i'r dwyrain a phentref bychan Eglwys Fair y Mynydd i'r gorllewin, tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen.
[1]]]
Yn yr Oesoedd Canol roedd yr eglwys yn gapel a berthynnai i eglwys Llanfleiddan.
Roedd y cyn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol i Gymru, JPR Williams, yn byw yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[3]