![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,364, 1,279 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,506.33 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.1°N 4.2°W ![]() |
Cod SYG | W04000390 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref, plwyf a chymuned yn Nyffryn Teifi yn ne Ceredigion yw Llanwenog. Saif ar yr A475 tua 6 milltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan ac i'r gogledd-orllewin o Lanybydder.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwenog, ac mae'n cynnwys bedyddfaen nodedig. Cafwyd hyd i garreg yma gydag arysgrif o'r 5g mewn Lladin ac Ogam, yn coffhau Trenacatus fab Maglagnus. Mae'n awr yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enwyd brîd o ddefaid ar ôl Llanwenog.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Rhuddlan Teifi, Dre-fach, Cwrtnewydd, Alltyblaca a Gors-goch. Roedd poblogaeth yn gymuned yn 2001 yn 1,391.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]