Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 514, 464 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,317.6 ha |
Cyfesurynnau | 51.968°N 3.874°W |
Cod SYG | W04000543 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanwrda. Saif y pentref ger cyffordd y briffordd A40 a'r A482, tua hanner y ffordd rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, ger glan Afon Dulais, sy'n ymuno ag Afon Tywi ychydig i'r de-ddwyrain o'r pentref. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Calon Cymru.
Heblaw pentref Llanwrda ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Porth-y-rhyd. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 513 gyda 66.47% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llanwrda yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]