Enghraifft o: | llawysgrif ![]() |
---|---|
Deunydd | memrwn, inc ![]() |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1375 ![]() |
Genre | ffeithiol ![]() |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Prif bwnc | Cyfraith Cymru ![]() |
Llawysgrif cyfraith o ail hanner y 14g yw Peniarth 164 (neu 'siglum H'). Mae'r llawysgrif yn cynnwys bron i 500 o drioedd a cheir ynddi gasgliadau o gynghawsedd unigryw. Dyma'r unig lawysgrif cyfraith sydd wedi ei hysgrifennu'n gyfan gwbl mewn anglicana cyn 1400. Rywbryd cyn 1619 cafodd 'H' ei rhwymo gyda llawysgrif Peniarth 29 ac arhosodd felly tan ar ôl 1869.
Mae rhan helaeth o'r llawysgrif yn annarllenadwy oherwydd y staen afalau'r derw a roddwyd arni gan John Jones, Gellilyfdy. Yn ystod y 1940au ail-rwymwyd y llawysgrif a thorrwyd ei dalennau fel nad oes modd gweld strwythur gwreiddiol y llawysgrif. Adysgrifiwyd H a darn o Beniarth 29 gan John Jones yn 1619 yn llawysgrif Llanstephan 121. Copïwyd cynnwys Llanstephan 121 gan Robert Vaughan, Hengwrt yn llawysgrif Peniarth 278. Defnyddiodd Aneurin Owen Peniarth 278 yn sail i Lyfr XIV Ancient Laws and Institutes of Wales.