Enghraifft o: | casgliad o lawysgrifau, fonds |
---|---|
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Perchennog | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Teulu Wynniaid, Peniarth, John Williams, Robert Vaughan |
Yn cynnwys | Peniarth 109, Llawysgrif Peniarth 49, Peniarth 51, Llawysgrif Peniarth 53, Peniarth 6, Llawysgrif Peniarth 76, Peniarth 20, Llawysgrif Peniarth 164, Llawysgrif Peniarth 259, Llawysgrif Peniarth 32, Llawysgrif Peniarth 481, Llawysgrif Peniarth 482, Peniarth 28, Llyfr Gwyn Rhydderch, Brut y Brenhinedd (Peniarth 23C), Hengwrt Chaucer, Y Llyfr Du o'r Waun, Beunans Meriasek, Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin |
Gwladwriaeth | Cymru |
Casgliad o lawysgrifau Cymreig canoloesol yw Llawysgrifau Peniarth a gasglwyd yn wreiddiol gan Syr Robert Vaughan (1592 - 1667) o Hengwrt, Meirionnydd, ac a gafodd gartref ym mhlasdy Peniarth, plwyf Llanegryn, Meirionnydd yn y 19g. Mae'r casgliad yn cynnwys rhai o'r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Gwerthwyd y casgliad gan William Wynne VII o Beniarth i Syr John Williams yn 1898. Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol i Gymru addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr, yn cynnwys Llawysgrifau Peniarth, iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu.
Mae'r casgliad yn cynnwys trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Gwyn Rhydderch (sy'n cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant a chwedlau eraill) a nifer o lawysgrifau hynafol eraill, yn cynnwys testunau cynnar o Gyfraith Hywel, gwaith nifer o Feirdd yr Uchelwyr. Mae'r llawysgrifau mewn ieithoedd eraill yn cynnwys dwy lawysgrif Ladin o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy a thestun cynnar, darluniedig, o Canterbury Tales Geoffrey Chaucer a adnabyddir wrth yr enw Hengwrt Chaucer.
Fe'u diogelir i'r genedl yng nghasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.