![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.06°N 4.6°W ![]() |
Cod OS | SN217438 ![]() |
Cod post | SA43 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yn Nyffryn Teifi, Ceredigion yw Llechryd, a leolir tua 3 milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Aberteifi.
Saif y pentref ar lan ogleddol afon Teifi ar lôn yr A484 rhwng Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Ceir pont ar afon Teifi yn y pentref sy'n dwyn y ffordd i Gilgerran ac Abercuch ar y lan ddeheuol.
Llai na milltir i'r dwyrain o Lechryd ceir safle hen blas Maenordeifi (Manordeifi). Glanarberth yw'r enw ar ran o'r pentref, sy'n dwyn cysylltiad ag Arberth (safle llys Pwyll yng nghainc gyntaf y Mabinogi).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]