Llinell Wallace

Llinell Wallace
MathFfin Bio-Ddaearyddol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAlfred Russel Wallace Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Llinell Wallace.

Mae Llinell Wallace yn linell sy'n gwahanu dau ranbarth bioddaearyddol, Asia ac Awstralasia. I'r gorllewin o'r llinell ceir rhywogaethau o fywyd gwyllt sy'n perthyn i ranbarth Asia, tra i'r dwyrain ceir rhywogaethau sy'n perthyn i fywyd gwyllt Awstralasia. Enwir y llinell ar ôl y Cymro Alfred Russel Wallace, a nododd y gwahaniaeth yn ystod ei deithiau trwy ynysoedd de-ddwyrain Asia yn y 19g.

Mae'r llinell yn rhedeg rhwng ynysoedd Indonesia, yn gyntaf rhwng Borneo yn y gorllewin a Sulawesi yn y dwyrain, yna rhwng Bali yn y gorllewin a Lombok yn y dwyrain. Nid yw Culfor Lombok, sy'n gwahanu Bali a Lombok, ond 35 km o led, ond mae'n ddigon i weld cryn wahaniaeth yn y bywyd gwyllt, hyd yn oed mewn adar, nad yw rhai rhywogaethau ohonynt yn barod i groesi'r môr, hyd yn oed gulfor.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne