Botrychium lunaria | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Ophioglossales |
Teulu: | Ophioglossaceae[1][2] |
Genws: | Botrychium |
Rhywogaeth: | B. lunaria |
Enw deuenwol | |
Botrychium lunaria (L.) Sw. [3] | |
Cyfystyron[4][5] | |
Rhedynen fechan yw'r lloerlys (enw gwyddonol: Botrychium lunaria; Saesneg: common moonwort). Planhigyn bychan ydyw gyda'r ddeilen fel rheol rhwng 5 a 15 cm. Fe'i ceir yn Ewrasia a Gogledd America (o Alaska i'r Ynys Las) yn ogystal â rhannau o Hemisffêr y De, gan gynnwys De America ac Awstralia.[6] Un ddeilen sydd a dwy ran: y rhan ffrwythlon (gyda chlystyrau sporangia) a'r rhan diffrwyth sef rhwng 4 a naw is-ddail ar ffurf gwyntyll. Mae'n gwywo ar ddiwedd yr haf; ac yn aml, nid yw'n ymddangos am sawl tymor cyn ailymddangos.[7]
Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yng Nghymru gan Syr John Salusbury. Fe'i ceir mewn llawer o ardaleodd trwy Gymru, ond yn gyfyngiedig i gynefinoedd arbennig megis gweirgloddiau, twyni, bryniau a gweundiroedd. Nid yw'n blanhigyn amlwg iawn, felly mae'n debyg ei fod yn fwy cyffredin nac a dybir.