Enghraifft o: | symptom neu arwydd |
---|---|
Math | llosgiad, goleusensitifedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gormod o haul sy'n achosi llosg haul. Mae'r meinwe byw (megis y croen) yn llosgi oherwydd pelydrau uwchfioled yr haul. Y symtomau o losg haul ysgafn, fel arfer, ydyw teimlad 'cynnes' pan gyffyrddir â'r croen ynghyd â chochni (erythema). Gall y claf hefyd deimlo'n benysgafn ac wedi blino. Gall llosg haul ysgafn greu "lliw haul" sy'n elfen ffasionol ac apelgar gan rai pobol. Gall ormod ohono (llosg haul difrifol) fod yn angheuol.