Lludd Llaw Eraint | |
---|---|
Enwau eraill | Nudd Llaw Ereint |
Prif le cwlt | Cymru |
Preswylfa | Efallai Llundain[1] |
Rhyw | Gwryw |
Gwyliau | Cysylltiadau posibl â Chalan Mai[1] |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Beli Mawr[1] (tad) ac yn ôl pob tebyg Dôn (mother) |
Siblingiaid | Caswallon, Nynniaw, a Llefelys |
Epil | Mandubracius (mab) a Creiddylad (merch),[1] a Gwyn ap Nudd |
Cywerthyddion | |
Gwyddelig | Nuada |
Mae Lludd Llaw Ereint, mab Beli Mawr, yn arwr chwedlonol ym mytholeg Gymreig. Fel Nudd Llaw Ereint (y ffurf gynharach ar ei enw, yn gytras â'r Nuada Airgetlám Gwyddelig, yn tarddu o'r duw Celtaidd Cyn-Rufeinig Nodens) fe yw tad Gwyn ap Nudd. Mae'n debyg mai fe yw ffynhonnell y brenin Lud o History of the Kings of Britain gan Sieffre o Fynwy.[2]
Yn chwedl Lludd a Llefelys y Mabinogi, a ddylanwadodd ar waith Sieffre o Fynwy, fe yw rheolwr Prydain tra yr oedd ei frawd, Llefelys, yn rheoli dros Gâl. Geilw Lludd ar Lefelys i gael gwared ar dri phla o Brydain a oedd yn cystuddio'r deyrnas. Awgryma cysylltiad ieithegol fod cofeb i Lludd ar un adeg yn safle eglwys gadeiriol Sant Pawl, Llundain, ger Ludgate, sy'n dwyn ei enw.[2][3]