Enghraifft o: | tacson |
---|---|
Math | ecosystem forwrol |
Safle tacson | urdd |
Rhiant dacson | Fucophycidae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwymon algâu brown mawr yw lludwymon[1][2] (hefyd môr-wiail[3], morwiail[4], brŵal[3], brwydd[angen ffynhonnell]) sy'n ffurfio'r urdd Laminariales. Mae tua 30 gwahanol genws.[5] Er gwaethaf ei ymddangosiad, nid yw gwymon yn cael ei alw'n blanhigyn - mae'n heterokont, sydd yn grŵp cwbl anghysylltiedig o organebau.[6]
Mae brŵydd yn tyfu mewn "coedwigoedd tanddwr" (coedwigoedd gwymon) mewn cefnforoedd bas, a chredir iddo ymddangos yn oes y Mïosen, 5 i 23 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[7] Mae angen dŵr llawn maetholion ar yr organebau gyda thymheredd rhwng 6 ac 14°C. Maent yn adnabyddus am eu cyfradd twf uchel - gall y genera Macrocystis a Nereocystis dyfu mor gyflym â hanner metr y dydd, gan gyrraedd rhwng 30 ac 80 metr.[8]
Trwy'r 19eg ganrif, roedd y gair "kelp" yn Saesneg yn gysylltiedig yn agos â gwymon y gellid ei losgi i gael lludw soda (sodiwm carbonad yn bennaf). Roedd y gwymon a ddefnyddiwyd yn cynnwys rhywogaethau o'r ddau ddosbarth Laminariales a Fucales. Defnyddiwyd y gair "kelp" hefyd yn uniongyrchol i gyfeirio at y lludw wedi'i brosesu hyn[9], lludw gwymon yn Gymraeg.