Lluwchfa

Lluwchfa

Haen o eira wedi'i chasglu gan y gwynt yw lluwchfa neu lluwch (ll. lluwchfeydd).[1] Mae'n debyg i dywyn tywod ac fe'i ffurfir mewn modd tebyg, gyda'r gwynt yn codi ac yn symud manod a'i waddodi yn erbyn gwrthrych stond e.e. clawdd neu wal. Mae lluwchfeydd yn aml yn cael effaith andwyol ar drafnidiaeth, hyd yn oed yn waeth na chwympiad yr eira ei hun.

  1.  lluwchfa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne