Math | llwybr troed |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Hyd | 219 cilometr |
Llwybr pellter hir trwy Ganolbarth Cymru yw Llwybr Dyffryn Gwy. Ei hyd presennol yw 136 milltir. Am ran helaeth ei gwrs mae'n rhedeg ar hyd Dyffryn Gwy gan gadw'n agos i gwrs afon Gwy.
Mae'r llwybr yn rhedeg rhwng Cas-gwent yn Sir Fynwy a llethrau Pumlumon ym Mhowys. Ar y dechrau rhedai o Gas-gwent i Rhaeadr Gwy trwy'r Drenewydd a Llanfair-ym-Muallt, cyfanswm o 112 milltir (181 km). Erbyn heddiw mae'r llwybr wedi ei ymestyn i orffen/gychwyn ger tarddiad afon Gwy ar Bumlumon, i'r dwyrain o Aberystwyth, cyfanswm newydd o 136 milltir.