Llychlys cyffredin Lejeunea cavifolia | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Lejeunea |
Rhywogaeth: | L. cavifolia |
Enw deuenwol | |
Lejeunea cavifolia |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys cyffredin (enw gwyddonol: Lejeunea cavifolia; enw Saesneg: Micheli's least pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn yng Nghymru a'r Alban, a hefyd yng ngogledd a de Lloegr, ond nid yn y canolbarth, nad yn Iwerddon.
Mae'r Llychlys cyffredin yn tueddu i fod yn fwy na'r mwyafrif o'r rhywogaethau bach, cysylltiedig eraill, gyda lobiwlau llai ac is-ddail mwy na L. lamacerina a L. patens.
Tyf ar greigiau a choed mewn mannau cysgodol a llaith, yn enwedig coetir. Yn aml mae'n cripian trwy lysiau'r afu eraill.