Llydaw

Llydaw (Breizh, Bretagne, Bertaèyn)
Baner Llydaw
Baner Llydaw

(Baner Llydaw)
Map Llydaw
Map Llydaw
Hysbysrwydd Rhanbarth Llydaw Liger-Iwerydd
Prifddinas: Roazhon (Rennes) Naoned (Nantes)
Poblogaeth (2003):

Dwysedd:

2 972 700 o drigolion

107 trigolyn/km²

1 134 266 o drigolion

166 trigolyn/km²

Ardal: 27 208 km² 6 815 km²
Llywydd y Cyngor: Pierrick Massiot Patrick Mareschal
Départements: Arfordir Armor (22)
Îl-a-Gwilun (35)
Môr Bychan (56)
Penn-ar-Bed (29)
Liger-Iwerydd (44)
Erthygl am y wlad Geltaidd hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Llydaw (gwahaniaethu).

Un o'r gwledydd Celtaidd, yng ngweriniaeth Ffrainc, yw Llydaw (Cymraeg Canol: Brytaen neu Brytaen Fechan[1], Llydaweg: Breizh, Ffrangeg: Bretagne). Fe'i rhannwyd rhwng dau ranbarth (régions) Ffrengig gan lywodraeth Vichy Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Bretagne a Rhanbarth Bröydd Liger. Yn y naill mae pedwar o bum département y wlad; yn y llall y mae'r pumed (Liger-Iwerydd), ynghyd â départements sy'n rhan o fröydd eraill.

Yn 2006, amcangyfrifwyd fod poblogaeth Llydaw tua 4.3 miliwn. O'r rhain, roedd 72% yn byw yn region Bretagne, a 28% yn Pays-de-la-Loire.

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2021-05-01.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne