Llyfr Coch Hergest

Llyfr Coch Hergest
Sgan o Lyfr Coch Hergest gan Lyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen
Enghraifft o:codecs, llawysgrif, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Awduramryw o awduron Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1382 Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Bodley Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHistoria Regum Britanniae, Peniarth 20, Ystorya de Carolo Magno, Breuddwyd Rhonabwy, Trioedd Ynys Prydain, Pedair Cainc y Mabinogi, Meddygon Myddfai, Amlyn ac Amig, Cyfranc Lludd a Llefelys, Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y gyfrol gyfan ar Comin Wicimedia

Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi hefyd sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi. Mae'r gwaith wedi'i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys Rhyddiaith, barddoniaeth, gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau.[1]

Cyfeiriwyd ati fel 'y crynhoad llawysgrif sengl cyfoethocaf o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol' (Lewis 1971: 481), 'llyfrgell mewn un gyfrol', ac 'y trymaf o'r llyfrau canoloesol yn Gymraeg o bell ffordd, y mwyaf yn ei ddimensiynau ... a'r mwyaf trwchus' Huws (2000: 82).[2]

Roedd Llyfr Gwyn Hergest yn llawysgrif a sgwennwyd yn rhannol gan Lewis Glyn Cothi, ond yn 1810 cafodd ei ddinistrio mewn tân.

Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan ac Ynysdawe ar ddechrau'r 15g. Gwyddys ei fod yn berchen ar Lyfr Coch Hergest gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd proffesiynol Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan yng Nghwm Tawe y lluniwyd y llawysgrif. Ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn a cheir dim llai na phum awdl i Hopcyn yn y Llyfr Coch yn ogystal â gwaith gan: Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Madog Dwygraig, Meurig ab Iorwerth ac Ieuan Llwyd ab y Gargam. Yn ogystal, ceir awdl gan Y Proll i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd o fri.[3]

Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o Dre-tŵr yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17g a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen, ac wedi'i ddigideiddio ar drwydded agored.

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; 2008; tud.577
  2. rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk; Archifwyd 2021-07-20 yn y Peiriant Wayback Rhyddiaith Gymraeg 1300 - 1425 Prifysgol Caerdydd; adalwyd 20 Gorffennaf 2021.
  3. "R. Iestyn Daniel 2002"

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne