Enghraifft o: | system gyfreithiol ![]() |
---|---|
Rhan o | Cyfraith Cymru ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 13 g ![]() |
Cysylltir gyda | Llyfr y Damweiniau ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Llyfr Iorwerth yw'r term a ddefnyddir gan ysgolheigion i ddynodi'r dull ar y Cyfreithiau Cymreig canoloesol a ddatblygodd yng Ngwynedd yn Oes y Tywysogion. Fe'i gelwir hefyd yn 'Dull Gwynedd' (Saesneg, Venedotian Code, yn nosbarthaid Aneurin Owen yn ei gyfrol Ancient Laws and Institutes of Wales, 1840). Gyda Llyfr Blegywryd ('Dull Dyfed') a Llyfr Cyfnerth (a elwir hefyd, yn gamarweiniol, yn 'Ddull Gwent'), Llyfr Iorwerth yw un o'r tri dull taleithiol ar Gyfraith Hywel.
Y prif nodweddion ar y grŵp o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Iorwerth mewn cymhariaeth a'r dulliau eraill yw:
Credir i'r gwahaniaethau hyn adlewyrchu twf dylanwad Gwynedd yn Oes y Tywysogion ac uchelgais gwleidyddol ei thywsogion i arwain Cymru. Ceir tua 25 llawysgrif o Ddull Gwynedd. Perthyn y testunau cynharaf i'r 13g, cyfnod Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.