Llyfr Taliesin | |
---|---|
Aberystwyth, LLGC, Peniarth LLY 2 | |
ffacsimili, ffolio 13 | |
Dyddiad | Hanner cyntaf y 14 ganrif |
Iaith/Ieithoedd | Cymraeg |
Maint | 38 ffolio |
Cynnwys | Tua 60 cerdd Gymraeg |
Mae Llyfr Taliesin (Peniarth 2) ymhlith y cynharaf o lawysgrifau Cymraeg sydd wedi goroesi. Llawysgrif ar femrwn sy'n dyddio o hanner cyntaf y 14g ydyw ond sy'n cynnwys testunau sy'n hŷn o lawer.[1] Mae'r llawysgrif ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o'r casgliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth. Tybir iddi gael ei ysgrifennu yn ne neu ganolbarth Cymru. Math o flodeugerdd o'r cerddi a briodolwyd i Daliesin ydyw.