Math | cyhoeddwr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Gwlad | Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Aneirin Talfan Davies |
Tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg o'r 1940au hyd y 1970au oedd Llyfrau'r Dryw.
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies. Cyfres o lyfrau bach clawr papur yn y Gymraeg, dan yr argraffnod Llyfrau'r Dryw, ar bynciau amrywiol oedd man cychwyn y cyhoeddwyr. Eu bwriad oedd 'cyflenwi llyfrau clawr papur rhad i'r werin gan awduron o safon'. Ymhlith yr awduron hynny oedd Edward Tegla Davies, Kate Bosse-Griffiths, Sarnicol, R. T. Jenkins, William Ambrose Bebb, T. Gwynn Jones, Thomas Jones, Ifor Williams, Alwyn D. Rees ac E. Morgan Humphreys. Straeon ac ysgrifau ar bynciau amrywiol a geid yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres, gydag ambell eithriad fel casgliad o hwiangerddi Cymraeg gan Eluned Bebb. Chwareai'r llyfrau poblogaidd hyn ran bwysig yn adfywio'r farchnad llyfrau Cymraeg yn y 1950au, pan wynebai argyfwng oherwydd diffyg deunydd darllen poblogaidd.
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn 1952. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y 1950au a'r 1960au yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol Crwydro Cymru, sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol Barn, yn Gymraeg, a Poetry Wales yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y 1970au a daeth yn rhan o Gwmni Christopher Davies (Abertawe), mab Alun Talfan Davies sef ochr gyhoeddi Saesneg y wasg.
Roedd argraffdy'r cwmni wedi ei sefydlu yn Llandybie. Daeth Emlyn Evans yn rheolwr ar y wasg yn 1957 ond fe ymddiswyddodd adeg anghydfod cyhoeddi Ieuenctid yw 'Mhechod gan John Rowlands. Dilynwyd ef gan Dennis Rees a dilynwyd yntau ddechrau'r 70au gan John Phillips.