![]() | |
Math | llyfrgell genedlaethol, archifdy cenedlaethol, llyfrgell ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llywodraeth yr Alban ![]() |
Lleoliad | Caeredin ![]() |
Sir | Caeredin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.9487°N 3.19173°W ![]() |
![]() | |
Lleolir Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (Gaeleg yr Alban: Leabharlann Nàiseanta na h-Alba, Saesneg: National Library of Scotland, Sgoteg: Naitional Leebrar o Scotland) yng Nghaeredin. Mae'n un o chwe llyfrgell adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Delir yno dros 15 miliwn o eitemau argraffiedig, saith miliwn o lawysgrifau, dau filiwn o fapiau a thros 32,000 ffilm.[1]
Fe'i sefydlwyd yn 1925, yn seiliedig ar gasgliad Llyfrgell yr Adfocadau (Advocates Library neu Library of the Faculty of Advocates), a sefydlwyd yn y 1680au cynnar. O dan delerau Deddf Hawlfraint 1710 roedd y llyfrgell hon yn hawlio copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain. Yn dilyn y ddeddf seneddol a greodd y Llyfrgell Genedlaethol ym 1925, codwyd adeilad newydd ar ei chyfer ar George IV Bridge rhwng 1938 a 1956, gydag ysbaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Agorodd adeilad ychwanegol yn Causewayside mewn dau gam, ym 1989 ac ym 1995.[2]