![]() | |
Math | llyfrgell ymchwil ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Musaeum ![]() |
Lleoliad | Alexandria ![]() |
Sir | Alexandria ![]() |
Gwlad | Ægyptus ![]() |
Cyfesurynnau | 31.21°N 29.91°E ![]() |
![]() | |
Cysegrwyd i | Muse ![]() |
Llyfrgell Frenhinol Alexandria neu Lyfrgell Hynafol Alexandria yn Alexandria, yr Aifft, oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol yr hen fyd. Roedd wedi'i hadeiladu i'r Awenau, naw duwies y celfyddydau. Ffynnodd o dan nawdd y frenhinlin Ptolemaidd a daeth yn brif ganolfan i ddysgeidiaeth o'i hadeiladu yn y 3g CC hyd nes i'r Rhufeiniaid goncro'r Aifft yn 30CC. Yn ogystal â'i chasgliadau o weithiau, roedd ganddi ddarlithfeydd, ystafelloedd cyfarfod a gerddi. Roedd y Llyfrgell yn rhan o sefydliad ymchwil mwy o'r enw Musaeum Alexandria, ble astudiodd nifer o feddylwyr enwocaf yr hen fyd.
Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemi I Soter, cadfridog o Facedonia ac olynydd Alecsander Fawr. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau papyrus. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.
Mae'n debyg mai hyn sy'n gwneud y llyfrgell hon yn adnabyddus yw'r ffaith iddi gael ei llosgi'n ulw gan arwain at golli nifer fawr o'r sgroliau a llyfrau; mae ei dinistrio wedi dod yn symbol o golli gwybodaeth ddiwylliannol. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd y Llyfrgell ei llosgi na phwy a wnaeth, ac mae'n bosib bod y Llyfrgell wedi wynebu sawl tân dros lawer o flynyddoedd.