Llyn Conwy

Llyn Conwy
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.999°N 3.819°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn Conwy yw tarddle Afon Conwy, yn sir Conwy, gogledd Cymru. Cyfeirnod AO: SH780462.

Mae'r llyn, sydd o siâp crwn anwastad, yn gorwedd tua 1,550' i fyny ar ymyl ogleddol y Migneint. Mae'n gorwedd mewn pant mawr agored. Mae'r tir o gwmpas yn fawnog a chreigiog gyda phlanhigion grug ac eithin yn dominyddu.

Rhed Afon Conwy ifanc allan o ben deheuol y llyn. Er ei fod yn llyn naturiol mae'n gronfa dŵr bellach. Mae'n boblogaidd gan bysgotwyr plu.

Y mynediad hawsaf iddo yw o lôn y B4407, sy'n rhedeg rhwng yr A5 ger Pentrefoelas a Ffestiniog, ger Blaenau Ffestiniog.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne