Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs ![]() |
Sir | Gorllewin Swydd Dunbarton, Argyll a Bute, Stirling ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 71 km² ![]() |
Uwch y môr | 79 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 56.1482°N 4.6515°W ![]() |
Dalgylch | 696 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 37 cilometr ![]() |
![]() | |
Llyn yn yr Alban yw Llyn Llumonwy (Gaeleg: Loch Laomainn; Saesneg: Loch Lomond). Saif yn rhannol yn Ucheldiroedd yr Alban ac yn rhannol yn yr Iseldiroedd. Mae'r lan ddeheuol rhyw 14 milltir i'r gogledd o ddinas Glasgow.
Mae hyd y llyn yn 24 milltir, a'i led yn amrywio o ¾ milltir i 5 milltir. Ar gyfartaledd, mae ei ddyfnder yn 120 troedfedd (37 medr), a'r man dyfnaf tua 630 troedfedd (190 medr). Gydag arwynebedd o 27¼ milltir sgwar (71 km²), dyma'r llyn mwyaf ar Ynys Prydain o ran arwynebedd, a'r ail fwyaf ar ôl Loch Ness o ran y maint o ddŵr ynddo.
Saif y llyn ym Mharc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs, ac mae'r West Highland Way yn dilyn ei lan ddwyreiniol, gyda'r briffordd A82 yn dilyn y lan orllewinol. Uwchben y lan ddwyreiniol mae Ben Lomond, 3,195 troedfedd (974 medr) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y llyn, rhai ohonynt yn ynysoedd wedi ei hadeiladu a elwir yn crannog.
Ceir yr enghraifft gynharaf o enw Cymraeg y llyn ('Lumonoy') yn yr adran ar 'Ryfeddodau Prydain' yn y testun Lladin Historia Brittonum (tua 830). Llyn Llumonwy yw'r ffurf gyfoes safonol yn ôl Geiriadur yr Academi.[1]
Enwogwyd y llyn gan y gân "The Bonnie Banks O' Loch Lomond", a gyhoeddwyd gyntaf tua 1841: