![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3528°N 4.4139°W ![]() |
Rheolir gan | Dŵr Cymru ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mae Llyn Alaw yn gronfa ddŵr ar Ynys Môn, yng ngogledd Cymru. Mae'n cyflenwi dŵr i ran ogleddol yr ynys. Saif yng nghymunedau Tref Alaw a Rhosybol.
Cafodd yr enw 'Llyn Alaw' am fod yr alaw (lili'r dŵr) yn tyfu yno.[1]
Ffurfiwyd y llyn trwy adeiladu argae ar draws Afon Alaw, ond nid oes unrhyw afonydd mawr yn llifo i mewn i'r llyn. Mae'r ardal o'i gwmpas yn amaethyddol.
Mae Llyn Alaw o bwysigrwydd fel gwarchodfa adar, gyda dwy guddfan o amgylch y llyn, ac mae hefyd yn fan boblogaidd i bysgota.