Llywelyn ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 1220, 1223 |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1282 Llanfair-ym-Muallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Teyrnas Gwynedd |
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr |
Mam | Senana |
Priod | Elinor de Montfort |
Plant | y Dywysoges Gwenllian, Catrin ferch Llywelyn ap Gruffudd |
Llinach | Llys Aberffraw |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282) oedd Tywysog Cymru o 1258–1282 tan y lladdwyd ef gan filwyr Seisnig yng Nghilmeri, a'r cyntaf i gael ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Frenin Lloegr.
Ei nod oedd ceisio uno Cymru, a brwydrodd yn galed yn erbyn Brenhinoedd Lloegr, yn enwedig Edward I, i gyflawni hyn. Mae llawer o bobl yn ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf am mai ef oedd tywysog olaf Cymru cyn i Frenin Lloegr, Edward I, reoli Cymru gyfan.[1]
Mae ei enw yn ymddangos am y tro cyntaf mewn cofnodion yn 1243.[2] Ar farwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, ef oedd yr olynydd amlwg, ond yn ôl Cytundeb Woodstock yn 1247 rhannwyd Gwynedd rhwng y tri brawd: Llywelyn, Owain (ei frawd hŷn) a Dafydd. Yn 1255 gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd a sefydlodd ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy.[2] Y flwyddyn wedyn roedd y Berfeddwlad o dan ei arweinyddiaeth ac o fewn dwy flynedd roedd y rhan fwyaf o'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant.
Ar ôl ryfel cartref yn Lloegr yn 1263 dan arweiniad Simon de Montfort, llofnodwyd Cytundeb Trefaldwyn. Roedd y cytundeb rhwng Llywelyn a Harri III o Loegr yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru gyda'r hawl i wrogaeth pob tywysog ac arglwydd yn y Gymru annibynnol. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgenad y Pab.[3]
Bu farw Harri III yn 1272 ac ar ôl i Edward I gael ei goroni yn frenin Lloegr dechreuodd y drwgdeimlad rhwng y ddwy wlad godi unwaith eto. Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd ap Gruffudd, brawd ieuengaf Llywelyn, ar Gastell Penarlâg, oedd ym meddiant y Saeson, gan ei feddiannu. Bu raid i Lywelyn gefnogi'r ymosodiad, gan fod y Cymry yn anesmwytho gan fod Edward wedi penodi Saeson i fod mewn grym yng Nghymru.
Cafwyd buddugoliaeth arall ger Afon Menai a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a Dyffryn Tywi. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn Eryri a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri gan filwr o Sais ar 11 Rhagfyr 1282. Mae 11 Rhagfyr yn ddyddiad sy'n cael ei gadw gan lawer fel Gŵyl i'w gofio.