Gwelwyd tri datblygiad a newid yn ffiniau a cymwysedd Llywodraeth Leol Brenhiniaeth Iwgoslafia (a adnbwyd yn wreiddiol fel Brenhiniaeth y Serbiaid, Croatiaiad a Slofeniaid) yn ystod cyfnod y wladwriaeth hwnnw a fodolai rhwng y ddau ryfel byd. O ddiwedd y Rhyfel Mawr yn 1918 hyd at 1922, fe etifeddodd a pharhaodd y Frenhiniaeth â hen gyfundrefn llywodraeth leol a fodolau yn y rhanbarth cyn y Rhyfel. Yn 1922, rhannwyd y wladwriaeth fewn i 33 oblast neu sir ac yn 1929, cyflwynwyd system newydd o 9 banat (talaith, yn Serbeg a Chroateg, y gair am banat yw banovina). Cafwyd wared ar daleithiau vilayet yr Ymerodraeth Otomanaidd oedd yn bodoli yn rhannau deheuol y wladwriaeth newydd.