Enghraifft o: | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Poblogaeth | 42,320, 32,713, 54,289 |
Gwlad | Palesteina |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Llywodraethiaeth Jericho (Arabeg: محافظة أريحا Muḥāfaẓat Arīḥā; Hebraeg: נפת יריחו, Nafat Yeriħo) yn un o 16 Llywodraethiaethau Palestina. Fe'i lleolir ar hyd ardaloedd dwyreiniol y Lan Orllewinol, ar hyd y ochr ogleddol y Môr Marw a dyffryn deheuol afon Iorddonen sy'n ffinio â Gwlad Iorddonen. Mae'r llywodraethiaeth yn rhychwantu i'r gorllewin i'r mynyddoedd i'r dwyrain o Ramallah a llethrau dwyreiniol Jerwsalem, gan gynnwys rhannau gogleddol Anialwch Jwdeaia. Y brifddinas yw dinas hynafol Jericho. Amcangyfrifir bod poblogaeth Llywodraethiaeth Jericho yn 50,002, gan gynnwys 13,334 o ffoaduriaid Palesteinaidd yng ngwersylloedd y llywodraethiaeth.[1]
Gwerddon yn Ardal Jericho yw Parc Elishia (a elwir hefyd yn Ffynnon Elisee ac Ein el-Sultan) sy'n gartref i berllannau, llwyni palmwydd, planhigfeydd banana a fflora eraill.[2]