Lorem ipsum

Defnyddio lorem ipsum i ganolbwyntio sylw ar elfennau graffig wrth ddylunio tudalen we

Mewn cyhoeddi a dylunio graffeg, mae Lorem ipsum yn destun sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos ffurf weledol dogfen heb ddibynnu ar gynnwys ystyrlon (a elwir hefyd yn 'groegio'). Mae defnyddio'r math hwn o destun yn rhoi cyfle i ddylunwyr ddylunio ffurf y cynnwys cyn i'r cynnwys ei hun gael ei gynhyrchu.

Mae testun y lorem ipsum fel arfer yn tarddu o De finibus bonorum et malorum, testun Lladin o'r 1g gan Cicero, gyda'r geiriau wedi'u newid, eu hychwanegu, a'u symud i wneud Lladin diystyr, amhriodol.

Mae amrywiad o destun lorem ipsum cyffredin wedi'i ddefnyddio i gysodi ers y 1960au neu ynghynt, pan gafodd ei boblogeiddio gan hysbysebion ar gyfer taflenni trosglwyddo Letraset. Fe'i cyflwynwyd i'r oes wybodaeth yng nghanol y 1980au gan Aldus Corporation, a'i defnyddiodd mewn templedi graffeg a phrosesu geiriau ar gyfer ei raglen PageMaker.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne