Loretta Lynn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Loretta Webb ![]() 14 Ebrill 1932 ![]() Butcher Hollow ![]() |
Bu farw | 4 Hydref 2022 ![]() Hurricane Mills ![]() |
Label recordio | Decca Records, Zero Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, gitarydd, fiolinydd, artist recordio, sgriptiwr ![]() |
Adnabyddus am | I'm a Honky Tonk Girl, Still Woman Enough, Loretta Lynn Sings ![]() |
Arddull | canu gwlad, honky tonk, cerddoriaeth yr efengyl ![]() |
Priod | Oliver Lynn ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Flynyddol Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad i Ferched, Gwobr Grammy am y Perfformiad Gwlad Gorau gan Ddeuawd neu Grŵp Llais, Gwobr Flynyddol Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad i Ferched, Gwobr Flynyddol Cymdeithas Cerddoriaeth Gwlad i Ferched, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, American Music Award for Favorite Country Female Artist, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, American Music Award for Favorite Country Female Artist, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Teilyngdod Cerddoriaeth yn America, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Goffa Menywod Kentucky, Gwobr Grammy am yr Albwm Canu Gwlad Gorau, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Gwlad Lleisiol Gorau, Americana Award for Artist of the Year, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Americana Lifetime Achievement Award for Songwriting, Gwobr Cyflawniad Oes Willie Nelson ![]() |
Gwefan | https://lorettalynn.com/ ![]() |
Roedd Loretta Lynn (ganwyd Loretta Webb; 14 Ebrill 1932[1] – 4 Hydref 2022) yn gantores-gyfansoddwr canu gwlad o'r Unol Daleithiau. Roedd yn enwog am caneuon fel "You Ain't Woman Enough (To Take My Man)", "Don't Come Home A-Drinkin' (With Lovin' on Your Mind)", "One's on the Way", "Fist City", ac "Coal Miner's Daughter" ynghyd â ffilm fywgraffyddol 1980 o'r un enw. Cafodd yrfa dros 60 mlynedd gyda nifer o albymau aur.
Derbyniodd Lynn nifer o wobrau ac anrhydeddau am ei rôl arloesol mewn myd cerddoriaeth gwlad, gan gynnwys gwobrau gan y Country Music Association a'r Academy of Country Music fel partner deuawd ac artist unigol. Hi oedd yr artist recordio cerddoriaeth gwlad benywaidd mwyaf gwobrwyedig a'r unig Artist y Degawd ACM (1970au) benywaidd. Yn ei gyrfa aeth 24 o'i senglau i rhif 1 ac aeth 11 albwm i rhif 1. Parhaodd Lynn i berfformio ar daith mewn i'w 80au ond daeth 57 mlynedd o deithio i ben ar ôl iddi gael strôc yn 2017 ac yna torrodd ei chlun yn 2018.